Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi beirniadu Aelod Seneddol Ceidwadol am awgrymu y dylai Llywodraeth y Cynulliad gymryd y cyfrifoldeb am ariannu S4C.

Dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, nad yw’n deg torri cyllideb Llywodraeth y Cynulliad ac wedyn rhoi baich ariannol ychwanegol arno.

“Rydw i’n cefnogi datganoli’r cyfrifoldeb dros S4C i Gymru ond rhaid i hynny ddod ochr yn ochr gyda datganoli’r arian i’w gefnogi,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Ar hyn o bryd dyw ASau Ceidwadol na’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi unrhyw warant ynglŷn ag annibyniaeth S4C na cheiniog o gyllid tu hwnt i 2015.”

‘Golchi eu dwylo’

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn ymateb i flog gan Ysgrifennydd Preifat Cheryl Gillan yn Swyddfa Cymru, Glyn Davies, oedd yn awgrymu y dylai Llywodraeth y Cynulliad ariannu S4C.

Dywedodd ei fod o’n “synnu” bod y glymblaid wedi torri £5bn o gyllideb Cymru dros y pedair blynedd nesaf ac eto eisiau i Lywodraeth y Cynulliad wario arian ychwanegol.

“Rydw i’n synnu ynglŷn â beth oedd rhywun sydd gyda rôl flaenllaw o fewn Swyddfa Cymru wedi ei ysgrifennu,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Unwaith eto mae o’n fater o Lundain yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol S4C heb drafod gyda Llywodraeth Cymru.

“Mae o’n nodweddiadol o’r ffordd y mae’r glymblaid Ceidwadol-Doriaidd wedi mynd i’r afael gyda S4C. Dydyn nhw ddim eisiau dim byd ond golchi eu dwylo o’r cyfrifoldeb dros sicrhau ei ddyfodol.

“Mae dweud wrth Lywodraeth Cymru y dylen nhw dalu am S4C heb unrhyw gyllideb ychwanegol, ar yr un pryd a thoriadau mawr mewn gwario cyhoeddus, yn anwybyddu’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar y gwasanaeth iechyd ac addysg yng Nghymru.”

Mwy i’w ddweud eto?

Ar ei flog awgrymodd Glyn Davies bod ASau Ceidwadol Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau dyfodol S4C.

“Fe alla’i hysbysu darllenwyr y safle yma bod penderfynoldeb a chlyfrwch ASau Cymreig y glymblaid, wedi sicrhau dyfodol fyddai wedi bod ychydig yn dywyllach fel arall.

“Ond bydd rhaid i hynny ddisgwyl tan y cofiant.”