Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd newydd i wella gwasanaethau iechyd rhyw a lleihau nifer y merched sy’n beichiogi yn eu harddegau.

Maen nhw hefyd yn gobeithio lleihau nifer yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru.

Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn targedu grantiau gwerth £450,000 at yr ardaloedd lle mae’r cyfraddau uchaf o achosion o feichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau.

Fe fyddan nhw hefyd yn cynhyrchu gwybodaeth i helpu rhieni i drafod iechyd rhyw â’u plant, ac yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda HIV i ddatblygu ffyrdd o gael gwared ar unrhyw stigma.

£1 yn arbed £10

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart, bod £10 o arian cyhoeddus yn cael ei arbed ar gyfer pob £1 sy’n cael ei gwario ar atal cenhedlu.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn haws defnyddio’r gwasanaethau iechyd rhywiol, ond rhaid gwneud rhagor,” meddai Edwina Hart.

“Mae’r cynllun hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau iechyd ac i wella iechyd rhyw.

“Mae’r cynllun hwn yn amlinellu’r hyn y disgwylir i’r Byrddau Iechyd ei ddatblygu – ar y cyd ag eraill yn yr awdurdodau lleol – i wella gwasanaethau a lleihau nifer yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a nifer y merched yn eu harddegau sy’n beichiogi.

“Mae osgoi beichiogrwydd anfwriadol a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn arbed arian i’r GIG.

“Wrth gwrs, fel gyda llawer o faterion sy’n ymwneud ag iechyd, gallwn ddarparu gwybodaeth, addysg a gwasanaethau, ond rhaid i’r unigolyn ysgwyddo cyfrifoldeb personol am ei weithredoedd.”