Fe fydd rhieni, llywodraethwyr ac aelodau o gymunedau lle mae ysgolion bach dan fygythiad yn mynd â’u protest i gyfarfod pwyllgor yng Nghyngor Sir Gâr heddiw.
Maen nhw’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Craffu ar Addysg yn rhoi stop ar unwaith ar fwriad i gau 10 ysgol bentref ac adolygu dyfodol 31 arall.
Y bwriad yw cau 21 o’r rheiny hefyd ac mae rhieni’n flin am fod ysgolion wedi eu hychwanegu at y rhestr heb rybudd.
“Y gobaith yw y bydd y pwyllgor yn gallu mynd ag argymhellion i’r Bwrdd Gweithredu i ailystyried a chael gwared ar ffigyrau cau cyn i’r broses ddechrau,” meddai Angharad Clwyd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae’n dweud fod angen i gynghorwyr “wrando ar lais cymunedau a datblygu addysg yr ardaloedd gwledig. Mae ffyrdd gwahanol i wneud e na chau – r’yn ni eisiau i’r cynghorwyr sicrhau hynny,” meddai.
Safbwynt Cadeirydd sy’n rhiant…
“Wrth ddarllen yr adroddiad ceir yr argraff fod y swyddogion addysg eisoes wedi penderfynu ar dynged ein hysgolion,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gar a rhiant yn Ysgol Bancffosfelen sydd ar y rhestr mewn-peryg.
“Yn achos Ysgol Bancffosfelen, er nad yw’r broses ymgynghori wedi cychwyn, mae’r ysgol wedi cael ei rhoi ar restr o ysgolion y bwriedir eu cau. Mae hyn yn gwneud ffars lwyr o’r broses ymgynghori ac yn annilysu’r broses yn llwyr.
“Mae’r gymuned yn gweithio ar syniadau amgen sut i ddatblygu’r ysgol ac mae’n gyfle euraid i’r Cyngor gydweithio gyda’r gymuned mewn modd cadarnhaol.”