Fe roddodd rheolwr Abertawe awgrym y gallai arwr mawr y funud fod yn aros gyda’r clwb.

Wrth ganmol Marvin Emnes am sgorio’r unig gôl yn y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd, fe ddywedodd Brendan Rodgers y bydd rhaid aros i weld am ddyfodol y chwaraewr benthyg.

Mae’r blaenwr i fod i fynd yn ôl at ei glwb ei hun, Middlesborough, ar ôl y gêm ganol wythnos yn erbyn Bristol City ond mae’n amlwg bod Rodgers yn awyddus i’w gadw.

‘Aros i weld’

Roedd yn ffitio’n berffaith i ffordd yr Elyrch o chwarae, meddai, gan ychwanegu, “Fe fydd rhaid i ni aros i weld be sy’n digwydd yn yr wythnos nesa’”.

Roedd Emnes wedi creu cyfle allan o ddim i ennill y gêm sy’n cryfhau gafael Abertawe ar y trydydd safle yn y Bencampwriaeth ac yn cau’r bwlch rhyngddyn nhw a Chaerdydd, sy’n ail.

“Roedd yn gôl wych,” meddai Rodgers. “Fe fydd Emnes yn rhan o lên gwerin cefnogwyr Abertawe ar ôl hynna.”

Jones yn siomedig, ond …

Roedd rheolwr Caerdydd, David Jones, yn siomedig o golli’r triphwynt gartre’, gan hawlio bod y ddau dîm yn agos iawn at ei gilydd. Un camgymeriad oedd yn gyfrifol am golli’r gêm,” meddai.

“Fe gawn ein croeshoelio am yr wythnos nesa’, ond y cyfan sydd wedi digwydd ydi ein bod ni wedi caniatáu i’r bwlch gau rhyngddon ni.”

Llun: Marvin Emnes (Ytoyoda CCA 2.0)