Mae’r Croesgadwyr wedi cadarnhau mai Iestyn Harris yw eu Prif Hyfforddwr newydd ac mae yntau wedi dweud ei fod eisiau codi’r clwb i bedwar ucha’r Super League.
Fe ddaeth y cyhoeddiad yn union wedi i Brian Noble ddweud ei fod ef yn gadael y swydd – mae wedi cael cynnig swydd arall y tu ôl i’r llenni.
Yn eu tymor cynta’ ers symud i chwarae yn Wrecsam, fe lwyddodd y Croesgadwyr i gyrraedd yr wyth ucha’ yn y Gynghrair a chwarae yn y rowndiau cwpan.
‘Potensial anferth’
“Mae hwn yn glwb gyda photensial anferth,” meddai Iestyn Harris, sydd hefyd yn Brif Hyfforddwr Cymru. “Fe ddangosodd y chwaraewyr y llynedd beth y maen nhw’n gallu’i wneud.”
Yr her fyddai mynd â’r clwb i’r pedwar ucha’, meddai, er y byddai hynny’n gamp fawr.
Er bod y clwb wedi cael sylw’n ddiweddar oherwydd eu dyledion ariannol, roedd cadeirydd y clwb, Ian Roberts, hefyd yn proffwydo dyfodol disglair dan arweiniad Iestyn Harris.
Ddydd Mercher, fe fydd y clwb yn wynebu achos i’w rhoi yn nwylo’r derbynwyr.
Iestyn – y cefndir
Mae’r cyn faswr yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau’r cyfnod modern ac ef yw prif sgoriwr Cymru erioed. Ar ôl cyfnod yn chwarae rygbi’r undeb gyda Chaerdydd a Chymru, fe drodd yn ôl at y Gynghrair a dechrau ar ei yrfa hyfforddi yn 2009.
Roedd Iestyn Harris wedi bod yn cynorthwyo Brian Noble yn ystod y tymor diwetha’.
Llun: Gwefan y Croesgadwyr yn cyhoeddi’r newydd