Does dim arwydd heddiw o bryd fydd Llywodraeth filwrol Burma – Myanmar – yn cyhoeddi canlyniadau’r etholiad cyntaf yno ers 20 mlynedd.

Er y bydd grym yn aros yn nwylo’r fyddin ac, er bod rhai o wledydd y Gorllewin wedi condemnio’r diffyg democratiaeth, mae rhai’n gobeithio y bydd y bleidlais yn arwain at ddechrau newid yno.

Eu gobaith nhw yw y bydd arweinwyr newydd yn dod i’r amlwg sy’n fwy agored i ddiwygio’r drefn ond, yn ôl adroddiadau o Burma, roedd lefel y pleidleisio’n isel.

Boicot

Roedd plaid Aung San Kyi, a gafodd fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiadau diwethaf yn 1990 ond a gafodd ei gwahardd rhag cymryd y swydd – wedi bod yn galw ar bobol i foicotio’r etholiadau.

Mae hi wedi cael ei chadw’n gaeth am y rhan fwya’ o’r 20 mlynedd ers hynny ac mae llawer o wrthwynebwyr eraill y junta filwrol yn y carchar.

Mae’r Llywodraeth filwrol wedi rheoli Burma ers 1962 ac mae cyhuddiadau cyson wedi bod am droseddau’n erbyn hawliau dynol a cham-drin lleiafrifoedd ethnig ac am gamweinyddu economi’r wlad.

Llun: Tyfu reis yn Burma (Richard-dicky CCA 3.0)