Mae cannoedd o bobol wedi cefnogi tudalen Facebook i gofio am filwr ifanc o Gymru a fu farw mewn damwain yng Nghyprus.

Roedd Scott Hughes, 20 oed o’r Felinheli, ar gyfnod ‘dod ato’i hun’ gyda’r RAF ar ôl treulio cyfnod hir yn y rhyfel yn Afghanistan.

Roedd wedi mynd i Akrotiri, Cyprus, ac roedd i fod i ddod yn ôl adref i Wynedd ddydd Sadwrn diwetha’.

Does dim manylion swyddogol wedi’u rhoi eto ond mae Golwg360 yn deall ei fod wedi bod mewn damwain gwch ddydd Gwener. Bu farw mewn ysbyty ar yr ynys.

Mae teyrngedau wedi dechrau ymddangos ar wefan gymdeithasol Facebook a mwy na 600 o bobol wedi ymuno â thudalen ‘R.I.P. Scott Hughes, gone but not forgotten’.

Mae Golwg360 wedi gofyn i’r Llu Awyr am ragor o wybodaeth.

Llun: Scott Hughes – y llun sydd ar y dudalen deyrnged ar Facebook