Fe fydd Llywodraeth Awstralia’n cynnal refferendwm er mwyn newid cyfansoddiad y wlad i roi lle arbennig i’r Aborijiniaid.
Yn ôl y Prif Weinidog, y Gymraes Julia Gillard, y nod fydd cydnabod mai’r Aborijiniaid oedd pobol wreiddiol y wlad.
“Mae gan bobol gynta’ ein cenedl le unigryw ac arbennig,” meddai, wrth ddweud y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal cyn yr etholiadau nesa’ yn 2013.
Yn ôl yn 2007, roedd y Llywodraeth Lafur wedi ymddiheuro i’r Aborijiniaid am y ffordd y cawson nhw eu trin.
Peryglus
Fe fydd panel o arbenigwyr, gan gynnwys Aborijiniaid, yn penderfynu ar union eiriau’r cwestiwn ond fe rybuddiodd un ysgolhaig bod angen mynd ymhellach a bod peryglon mewn refferendwm.
Yn ôl Larissa Behrendt, athro mewn astudiaethau Aborijiniaidd yn Sydney, fe fydd y brodorion yn galw am hawliau go iawn yn hytrach na geiriau symbolaidd.
“Os byddwch yn gosod cwestiwn am warchod pobol frodorol yn y cyfansoddiad a bod hynny’n methu,” meddai, “mae’n neges wael iawn i gymuned yr Aborijiniaid ac fe fyddai ymgais i gydnabod lle arbennig y bobol Aborijiniaidd yn Awstralia yn troi’n sarhad pellach.”
Llun: Julia Gillard (Troy – CCA 2.0)