Mae Archesgob Caergaint wedi codi amheuon am fwriad y Llywodraeth i orfodi pobol ddi-waith i wneud cyfnod o waith gorfodol, neu golli eu budd-daliadau.

Fe rybuddiodd y Cymro Rowan Williams y gallai hynny wthio pobol yn ddyfnach i gylch o “ansicrwydd neu hyd yn oed anobaith”.

Roedd yn siarad ar radio’r BBC yng ngorllewin y Midlands ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, ddatgelu rhagor am y cynllun.

Y cynllun

Fe fyddai pobol sy’n ddi-waith yn y tymor hir yn cael eu gorfodi i wneud mis o waith cymunedol am 30 awr yr wythnos. Pe baen nhw’n gwrthod, fe allen nhw golli eu budd-daliadau am hyd at dri mis.

Roedd yr undebau a’r Blaid Lafur eisoes wedi condemnio’r bwriad gan ddweud nad oes digono swyddi ar gyfer yr holl bobol ddi-waith.

Ond fe ddywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, bod angen i bobol sy’n cael budd-daliadau fod yn barod i “wynebu eu cyfrifoldeb i gymryd mantais o’r gefnogaeth a’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw”.

Sylwadau Rowan Williams

“Mae pobol sy’n stryffaglu i gael gwaith a dyfodol sicr yn cael eu gyrru ymhellach i gylch o ansicrwydd, hyd yn oed anobaith, pan fydd pwysau fel yna.

“Mae pobol yn dechrau yn y lle yma, nid am eu bod yn ddrwg neu dwp neu ddiog ond oherwydd bod amgylchiadau wedi bod yn eu herbyn.”

Llun: Rowan Williams (Palas Lambeth)