Mae mwyafrif pobol Cymru o blaid codi oed prynu alcohol a baco i 21, yn ôl pôl piniwn newydd.

Maen nhw hefyd yn cefnogi syniad Llywodraeth y Cynulliad o osod isafswm pris ar bob uned o alcohol.

Roedd cwmni YouGov wedi holi mwy na 1,200 o bobol ar draws Cymru ac roedd bron dau o bob tri o blaid codi’r oed prynu.

Roedd union hanner o blaid gosod isafswm pris – mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth y Cynulliad, Edwina Hart, wedi dweud y byddai hi’n hoffi cael y grym i wneud hynny ond dyw’r Llywodraeth yn Llundain ddim wedi gweithredu hyd yn hyn.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Tony Jewell, hefyd o blaid isafswm pris. “Dw i’n cefnogi cais y Gweinidog Iechyd i ddatganoli grym i reoleiddio gwerthiant alcohol gan archfarchnadoedd, llefydd trwyddedig, tafarnau a chlybiau,” meddai.

Er gwaetha’r gefnogaeth ar bris sylfaenol alcohol, doedd yna ddim cefnogaeth i wahardd bargeinion arbennig – gydag ychydig mwy na’r hanner o blaid hawl siopau i wneud cynigion fel ‘prynwch un a chael un arall am ddim”.

Manylion y pôl:

Codi oed prynu alcohol a baco i 21
O blaid 64%
Yn erbyn 30%
Ddim yn gwybod 6%

Gosod isafswm pris ar uned o alcohol
O blaid 50%
Yn erbyn 44%
Ddim yn gwybod 6%

Gwahardd bargeinion arbennig
O blaid 43%
Yn erbyn 51%
Ddim yn gwybod 6%

Llun: Rhan o graffeg YouGov yn dangos canlyniadau’r arolwg