Mae’r rhan fwyaf o bobol Cymru, gan gynnwys mwyafrif y siaradwyr Cymraeg, yn credu y dylai S4C ddangos rhaglenni Saesneg, yn ôl pôl piniwn newydd.

Ac mae Cadeirydd Awdurdod y sianel wedi dweud y bydd rhaid iddyn nhw ystyried hynny wrth gynllunio dyfodol S4C.

Cafodd yr arolwg gan YouGov ei gomisiynu gan raglen Y Byd ar Bedwar, a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C am 9.30am heno.

Manylion yr arolwg

Yn ôl yr arolwg roedd 53% o bobol Cymru o blaid rhoi rhaglenni Saesneg ar S4C a 18% yn erbyn.

Ymysg siaradwyr Cymraeg, roedd y mwyafrif yn llai – 36% o blaid rhaglenni Saesneg a 35% yn erbyn.

Roedd yr arolwg hefyd yn dangos mai dim ond 18% oedd yn credu y dylai arian S4C ddod trwy’r BBC.

Roedd 29% yn credu mai Llywodraeth y Cynulliad a ddylai dalu am y sianel a 13% yn dweud y dylai’r arian ddod gan Lywodraeth San Steffan.

Roedd YouGov wedi holi 1,206 o oedolion ar draws Cymru.

‘Rhywbeth i’w ystyried’

Dywedodd cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, wrth y rhaglen bod angen ystyried ychwanegu rhaglenni Saesneg at arlwy’r sianel.

“Wel, mae hwnna’n ffigwr diddorol iawn ac rydw i’n meddwl bod angen i rywun edrych ar hyn yn y dyfodol,” meddai.

“Mae rhaid wedi dadlau y dylen ni ddarlledu rhaglenni Saesneg, ac wrth gwrs roedd hyn yn arfer digwydd pan oedd rhaglenni Channel 4 yn cael eu darlledu o gwmpas rhaglenni S4C.

“Mae S4C, erbyn hyn, yn sianel Gymraeg. Serch hynny mae hon yn ffaith ddiddorol ac yn rhywbeth fydd yn rhaid, ac a fydd, yn cael ei ystyried wrth symud ymlaen.

“Beth sy’n bwysig, dwi’n meddwl, ydi bod yr arolwg yn dangos bod mwyafrif yn gwerthfawrogi bodolaeth S4C ac eisiau gweld y sianel yn datblygu a ffynnu.”

Ymosod ar y sianel

Yr wythnos ddiwethaf beirniadodd S4C y llywodraeth yn San Steffan a’r cyfryngau, gan ddweud eu bod nhw’n defnyddio ffigyrau gwylio’r sianel er mwyn ymosod arni.

Dywedodd Carys Evans, Pennaeth Ymchwil y sianel, ei bod hi’n “gwbl annheg” cymharu ffigyrau gwylio S4C cyn ac ar ôl i’r sianel roi’r gorau i ddarlledu rhaglenni Saesneg.

Ddydd Sadwrn fe aeth mwy na 1,500 o bobol i rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd er mwyn protestio yn erbyn y toriadau o 25% i gyllideb y sianel a’r bygythiad i’w hannibyniaeth.