Perthynas yr Unol Daleithiau ac India fydd un o’r pwysica’ yn y 21ain ganrif, yn ôl yr Arlywydd Barack Obama.
Roedd yn siarad yn ystod seremoni i’w wahodd i’r wlad, y ddemocratiaeth fwyaf yn y byd, heddiw.
Cafodd limousine Barack Obama ei arwain at Rashtrapati Bhavan, palas arlywydd India yn New Delhi, gan amddiffynwyr ar gefn ceffylau.
Dywedodd Barack Obama bod India bellach yn un o bwerau mawr y byd. Mae o’n gobeithio defnyddio’r daith er mwyn cryfhau cysylltiadau economaidd y ddwy wlad.
Mae economi India yn tyfu’n aruthrol o gyflym ar hyn o bryd tra bod economi’r Unol Daleithiau yn brwydro i osgoi disgyn yn ôl i mewn i ddirwasgiad arall.
Ar ôl chwalfa etholiadol yr wythnos diwethaf mae Barack Obama dan bwysau i adfer economi’r Unol Daleithiau os yw am gael ei ail-ethol yn 2012.
Dywedodd Barack Obama y gallai’r Unol Daleithiau ac India gyd-weithio er mwyn atal terfysgwyr, hefyd.
“Dyw India ddim yn bŵer sy’n tyfu ond yn un o bwerau mawr y byd, ac fe allai’r Unol Daleithiau ac India weithio gyda’i gilydd er mwyn hybu heddwch, sefydlogrwydd, a ffyniant,” meddai.
“Y bartneriaeth rhwng yr Unol Daleithiau ac India fydd un o’r partneriaethau fydd yn diffinio’r 21ain ganrif.”