Nid rownd dillad nofio achosodd gynnwrf yng nghystadleuaeth Miss Swdan neithiwr. Ond yn hytrach y sioe ddiwylliant draddodiadol a wnaeth i’r gynulleidfa godi’i haeliau.

Roedd uchel-seinyddion yn bwydo cerddoriaeth bop gan Beyonce i’r neuadd, ac roedd rhai o’r cystadleuwyr wedi bod yn gorchuddio eu boliau â blawd er mwyn dynwared y ffordd y mae rhai o lwythi de’r wlad yn defnyddio lludw baw gwartheg.

“Peidiwch â gor-wneud e, ond peidiwch â bod ofn ei wneud e chwaith,” meddai un o drefnyddion y gystadleuaeth wrth y cystadleuwyr, lle’r oedd un, Atilia William, yn mynd ati i falansio pinafal mewn basged wiail ar ei phen.

Mae hi’n hanu o lwyth Zande yng Ngorllewin Equatoria, ardal ffrwythlon a gwyrdd sy’n defnyddio’r pinafal fel ei sumbol.

Fe gynhaliwyr y sioe yn hwyr neithiwr, ac fe fu 22 o ferched o 10 talaith y wlad yn cystadlu. Fe fu’r merched yn cerdded y llwyfan mewn ffrogiau cochion o flaen cynulleidfa o 1,500 o bobol. Dydyn nhw ddim yn cael gwisgo dillad nofio.

Y darn mwya’ poblogaidd o’r sioe, bob blwyddyn, yw’r un lle mae’r merched yn arddangos un agwedd arbennig o ddiwylliant eu hardaloedd unigol nhw.