Mae perchennog siopau Topshop a Bhs ar y stryd fawr yn ystyried cau tua 300 o’u siopau lleia’, yn ôl adroddiad heddiw.
Mae Syr Philip Green yn credu bod angen ystwytho a thorri’n ôl ar y 2,400 o siopau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd – ac mae les rhai cannoedd o’r rheiny yn dod i ben yn ystod y blynyddoedd nesa’, yn ôl papur The Sunday Times.
Mae disgwyl y bydd y biliwnydd o ddyn busnes yn dod â nifer o’r brandiau unigol fel Dorothy Perkins, Burton, Evans a Wallis at ei gilydd o fewn siopau Bhs.
Fe allai’r grwp chwilio am adeiladau mwy ar gyfer eu brand hynod o lwyddiannus, Topshop.
Fe ddaeth Syr Philip Green ag Arcadia a Bhs at ei gilydd y llynedd, er mwyn lleihau costau. Fe fu’r ddau grwp yn cael eu rhedeg yn annibynnol tan iddo brynu Bhs yn 2000 ac yna Arcadia yn 2002.