Mae helmed newydd yn cael y clod am arbed bywydau tri milwr o’r fyddin Brydeinig yn ystod y mis diwetha’.

Mae’r Ranger Silbert Wilson, 20, Corporal Tommy Creighton, 25, a’r Ranger Alan Hawthorne, 23, i gyd wedi cael eu harbed rhag bwledi’r Taliban, oherwydd iddyn nhw wisgo helmed newydd ‘Mark 7’ yn ystod cyrchoedd yn rhanbarth beryglus Helmand yn Affganistan.

Mae’r milwyr i gyd yn dod o Ogledd Iwerddon ac yn gwasanaethu gyda Bataliwn 1af y Royal Irish.

Fe ddechreuodd helmed y ‘Mark 7’ gael ei defnyddio yn gynharach eleni.