Mae pobol Burma yn cael y cyfle i fwrw pleidlais am y tro cynta’ ers 20 mlynedd, wrth i’r wlad gyfrinachol gynnal etholiad.
Er hynny, does yna fawr neb yn disgwyl i’r ymgyrchwyr dros ryddid a democratiaeth gael fawr ddim effaith ar y drefn yno. Y junta sy’n rheoli’r wlad, a phryd bynnag y bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi, does neb yn disgwyl newid.
Mae swyddogion y wlad wedi dweud y bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi “ymhen amser”. Y disgwyl yw y bydd Plaid Datblygiad Solidariaeth Undebol yn ennill mwyafrif anferth, er bod tipyn o wrthwynebiad ar lawr gwlad ar ôl 48 mlynedd o fyw dan gysgod y fyddin.
“Alla’ i ddim aros gartre’ a gwneud dim,” meddai Yi Yi, technegydd cyfrifiaduron 45-mlwydd oed o Rangoon, dinas fwya’r wlad. “Mae’n rhaid i mi fynd allan a phleidleisio yn erbyn yr USDP. Dyna sut y bydda’ i’n herio’r junta.”
Mae’r blaid honno yn sefyll mewn 1,112 o seddi allan o gyfanswm o 1,159 o seddi ar draws 14 rhanbarth. Mae’r wrthblaid fwya’, yr NDF, yn sefyll mewn 164 o seddi.