Mae Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, wedi sicrhau Cristnogion Coptig y wlad y bydd y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i’w gwarchod yn wyneb bygythiadau gan Al-Qaida.

Mae un o grwpiau llai Al-Qaida yn Irac wedi bygwth ymosod ar Gristnogion os na fydd Eglwys Goptig Orthodocs yr Aifft yn rhyddhau merched y maen nhw’n honni sydd wedi eu dal oherwydd eu bod wedi troi at Islam.

Mae asiantaeth newyddion yr Aifft, Mena, yn dweud bod Mr Mubarak wedi cynnal cyfarfod ffôn gyda’r arweinydd Coptig, y Pab Shenouda III, gan addo y bydd yn gwarchod yr wyth miliwn o bobol y wlad sy’n arddel y ffydd.

Y mis diwetha’, fe fu aelodau milwriaethus Al-Qaida yn dal mwy na 100 o bobol yn gaeth mewn eglwys yn Baghdad, gan esgor ar warchae a adawodd 58 o bobol yn farw.

Ers hynny, mae’r un grwp wedi bygwth ymosod ar Gristnogion lle bynnag y maen nhw.