Mae milfeddygon wrthi’n gwneud eu gorau i achub bywyd arth goala fechan a gafodd ei saethu yn nwyrain Awstralia.
Fe fydd y cyw coala 16 mis oed, sydd wedi ei henwi’n Frodo, yn derbyn llawdriniaeth heddiw er mwyn tynnu oddeutu 15 pelet o wn allan o’i chorff.
Mae Gweinidog Cynaladwyedd talaith Queensland, Kate Jones, wedi condemnio’r ymosodiad ar yr anifail fel un “creulon” ac mae wedi rhybuddio y bydd y sawl sy’n gyfrifol am hyn yn wynebu cyfnod o ddwy flynedd yn y carchar.
Mae milfeddygon eisoes wedi tynnu tair pelet o gorff yr anifail, ond roedd ei chyflwr yn rhy wan iddyn nhw fynd ymlaen gyda’r gwaith o dynnu’r gweddill allan.