Fe allai cysgu ar wahân, yn hytrach na gyda eich partner, eich gwneud yn berson hapusach, yn ôl arolwg.

Yn ôl arolwg Bedtime Etiquette, mae’r straen sy’n cael ei achosi pan gewch chi eich deffro gan bartner yn troi ac yn trosi, neu’n chwyrnu, neu’n siarad yn eu cwsg, yn bosib ei oresgyn… trwy symud i wely ar eich pen eich hun.

Fe gafodd 4,000 o gyplau eu holi ar draws gwledydd Prydain, ac mae eu tri chwarter nhw’n dweud fod chwyrnu cymar yn eu cadw nhw’n effro yn y nos.

Arferion eraill sy’n amharu ar batrymau cwsg yw siarad neu fwmian yn eu cwsg, neu droi a throsi.

“Chwyrnu yw un o’r pethau sy’n lladd pob rhamant mewn perthynas,” meddai’r arbenigwraig cwsg, Donna Dawson.

“Nid yn unig ydi’r partner arall yn cael eu gwarafun o gwsg da, ond mae’r blinder y maen nhw’n ei deimlo y bore wedyn yn gallu achosi tensiwn gartre’ ac yn y gwaith. Weithiau, fe all greu problemau go iawn yn y berthynas.”