Mae’r “ffenest” o gyfle ar gyfer creu gwladwriaeth newydd yn y Dwyrain Canol, yn cau’n ara’ deg. Dyna rybudd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, heddiw.

Roedd yn siarad ar ôl bod ar ymweliad deuddydd i diriogaethau Israelaidd a Phalesteinaidd. Mae’n dadlau y dylai’r ddwy ochr ddychwelyd at fwrdd y trafodaethau – trafodaethau a gafodd eu gohirio oherwydd y gwaith adeiladu tai ar gyfer Iddewon ar y Llain Orllewinol.

Mae William Hague yn rhybuddio hefyd bod y cyfle i greu gwladwriaeth lle mae’r ddwy ochr yn gallu byw ochr-yn-ochr, yn prinhau gydag amser.

“Mae’n rhaid i ni ddal ati, ond fy mhryder i yw bod amser yn brin,” meddai Mr Hague ar raglen Andrew Marr Show ar BBC 1 heddiw.

“Os na fyddwn ni’n llwyddo yno yn fuan, efallai y byddwn ni’n gorfod byw gyda’r broblem am lawer, llawer, hirach yn y dyfodol.”