Does dim lle i’r cyn-Weinidog Mewnfudo, Phil Woolas, yn y Blaid Lafur – hyd yn oed os y bydd yn llwyddo i wyrdroi dyfarniad llys sydd wedi ei wahardd rhag bod yn Aelod Seneddol ac o weithio ym myd gwleidyddiaeth am dair blynedd.
Mae Harriet Harman, dirprwy arweinydd Llafur, wedi datgan yn ddigyfaddawd heddiw na ddylai’r cyn-AS sydd wedi ei gael yn euog o wneud honiadau ffug yn erbyn gwrthwynebydd yn etholiadau mis Mai, gael dychwelyd i’r blaid.
“Dyw e ddim yn rhan o wleidyddiaeth Llafur i rywun ddweud celwydd er mwyn cael ei ethol,” meddai Harriet Harman.
Mae Mr Woolas wedi datgan ei fod am geisio adolygiad barnwrol i’r penderfyniad – ond dyw Llafur ddim yn cefnogi ei ymgais i adennill ei enw da.