Mae ficer priod sydd wedi ei gael yn euog o lawrlwytho cannoedd o ddelweddau pornograffig o blant, wedi ymddiswyddo o Eglwys Loegr.
Mewn llythyr at gynulleidfaoedd Eglwys Loegr yn Swydd Stafford, mae Esgob Lichfield wedi cadarnhau fod Dominic Stone yn rhoi’r gorau i’w waith, a bod hynny’n digwydd yn syth bin.
Fe gafodd Dominic Stone, o Marchington, ei orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw ddydd Mercher diwetha’, wedi i reithgor yn Llys y Goron Stafford ei gael yn euog o 16 o gyhuddiadau o greu delweddau anweddus.
Fe gymrodd hi dair awr a hanner i’r rheithgor ddod i benderfyniad unfrydol yn erbyn y tad-i-ddau 47 mlwydd oed. Mae allan ar fechnïaeth ar hyn o bryd, nes y bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesa’.
“Mae lawrlwytho delweddau anweddus o blant yn drosedd ddifridol iawn,” meddai Esgob Lichfield yn ei lythyr.
“Mae Mesur Disgyblu Clerigwyr yn ddeddf sy’n dweud sut y dylem ddelio â chwynion yn erbyn offeiriaid. Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i mi aros nes y bydd yr offeiriad dan sylw wedi cael ei ddedfrydu cyn y gallwn i ei symud o’i swydd.
“Fodd bynnag, ddydd Iau yr wythnos hon, fe ymddiswyddodd Dominic… ac rydw i wedi derbyn yr ymddiswyddiad.”