Fe fydd rali’n cael ei chynnal yn yr Alban heddiw, lle mae dyfodol dwy ganolfan y Llu Awyr dan fygythiad.

Mae’r orymdaith wedi ei threfnu fel rhan o ymgyrch i sicrhau dyfodol RAF Lossiemouth. Fe brofodd RAF Kinloss gerllaw ergyd fawr fis diwetha’ pan ganslwyd cenhedlaeth newydd o awyrennau Nimrod.

Mae disgwyl i gannoedd o bobol ymuno ag arweinyddion y pedair prif blaid yn Senedd yr Alban, i gefnogi’r ddwy ganolfan.

Fe fydd Colin McGregor, brawd yr actor Ewan McGregor a chyn-beilot Tornado a fu’n gweithio o RAF Lossiemouth, yn cyflwyno siaradwyr, sy’n cynnwys Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond; ynghyd ag arweinydd Llafur yr Alban, Iain Gray; ac arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Annabel Goldie.

Fe fydd yr orymdaith yn cychwyn am 2 o’r gloch y pnawn yma o Muirton Road yn Lossiemouth – ychydig lathenni yn unig o brif fynedfa canolfan yr RAF.