Fe fydd rhai o balasau brenhinol enwoca’ gwledydd Prydain yn mynd i gael eu trawsnewid i fod yn llefydd ‘gwyrdd’ – a hynny trwy insiwleiddio eu hatigau er mwyn torri i lawr ar allyriadau carbon!
Palas Hampton Court, cartref bonheddig Harri VIII, fydd y ty fydd yn ffocws i’r ymgyrch i wneud palasau yn llefydd mwy effeithiol i’r amgylchedd.
Fe fydd Twr Llundain hefyd yn destun gwaith. Er bod y lle wedi ei adeiladu yn 1530 ar gyfer ail wraig Harri VIII, Anne Boleyn; a Phalas Kensington, lle bydd orendy enwog y Frenhines Anne, sy’n dyddio o’r 18ed ganrif, yn cael ei insiwleiddio.
Cwmniau Nwy Prydain a Rockwool fydd yn gwneud y gwaith, ac mae disgwyl iddyn nhw ddefnyddio tua 11, 000 rôl o wlân insiwleiddio. Mae disgwyl i’r gwaith dorri costau gwresogi’r palasau o tua £130,000, a lleihau’r allyriadau carbon o 850 tunnell dros oes yr insiwleiddio.
Fe fydd y cynllun yn insiwleiddio mwy na 4,500 o fetrau sgwar yn nhoi y tri phalas – sy’n cyfateb i 100 o dai cyffredin o faint canolig.