Mae mwy nag un o bob tri o bobol gwledydd Prydain wedi gorfod pori yn eu cynilion er mwyn talu am bethau bob dydd, yn ôl canlyniadau arolwg heddiw.
Mae tua 36% o bobol yn dweud bod eu cynilion wedi gostwng yn ystod y chwe mis diwetha’, a’r person cyffredin wedi tynnu tua 16% o’u cynilon allan o’r banc er mwyn talu costau eraill.
Y prif reswm tros wneud hyn, yn ôl yr arolwg, yw fod costau byw wedi codi i 40% o gynilwyr. Mae 28% o’r rhai gafodd eu holi yn dweud eu bod wedi gorfod prynu eitem sylweddol fel car neu wyliau moethus.
Ond mae 20% o’r rhai ymatebodd i’r holiadur yn dweud eu bod wedi gorfod tynnu arian allan er mwyn talu dyledion, ac mae 8% o bobol wedi rhoi benthyg arian i deulu neu gyfeillion.