Mae un o swyddogion yr heddlu yn Cenia wedi lladd deg o bobol, wrth fynd o gwmpas tre’ Siakago yn saethu ar hap.
Mae swyddogion yr heddlu wrthi’n ymchwilio i’r digwyddiadau a allai fod wedi anafu mwy o bobol hefyd. Mae llefarydd ar ran yr heddlu lleol, 90 milltir i ffwrdd oddi wrth y brifddinas, Nairobi, yn gwrthod rhannu mwy o fanylion.
Fe aeth yr heddwas 30 oed allan neithiwr i chwilio am ffrind fenywaidd, ond fe fethodd â dod o hyd iddi. Dyw hi ddim yn glir pam ei fod, wedyn, wedi dechrau saethu ar hap.
Mae newyddiadurwr lleol yn tystio iddo weld y heddwas yn saethu mewn tri bar gwahano, gan ladd un person yn y ddau le cyntaf, a llorio wyth o bobol yn y trydydd.
Fe fethodd y bobol leol â sylweddoli beth oedd yn digwydd, gan eu bod wedi camgymryd swn y dryll am swn tân gwyllt.