Fe fydd heddlu Caerdydd ar eu gwyliadwriaeth heddiw wrth i’r brifddinas groesawu gêm fwya’r penwythnos yn y byd pêl-droed.
Mae trefniadau diogelwch manwl wrth i Abertawe deithio i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer darbi fawr de Cymru sydd hefyd yn gêm allweddol ar frig y bencampwriaeth.
Fe fydd rhaid i filoedd o gefnogwyr yr Elyrch deithio dan oruchwyliaeth o Abertawe ar gyfer gêm sydd wedi achosi trafferthion yn y gorffennol.
Y tro yma, fe fydd y gystadleuaeth yn fwy miniog nag erioed gyda Chaerdydd yn ail ac Abertawe’n drydydd wrth iddyn nhw gystadlu am le yn yr Uwch Gynghrair.
Ar un ochr, mae blaenwyr Caerdydd ymhlith y mwya’ peryglus yn y Bencampwriaeth tra bod amddiffyn Abertawe wedi mynd am fwy na 700 o funudau heb ildio gôl.
Llun: Stadiwm Dinas Caerdydd (Jon Candy CCA 2.0)