Mae rhaglenni newyddion BBC Cymru’n cael eu darlledu fel arfer heddiw wrth i newyddiadurwyr fynd yn ôl i’w gwaith ar ôl streic ddeuddydd.

Ond, os na fydd yr anghydfod yn cael ei ddatrys yn y cyfamser, fe fydd streic bellach ddechrau wythnos nesa’ ac mae undeb yr NUJ yn ystyried streiciau o amgylch dydd Nadolig a dydd Calan.

Roedd trefnwyr y gweithredu’n hapus gyda’r ymateb yng Nghymru – dim ond bwletinau byr oedd yn lle’r rhaglenni newyddion arferol ddydd Gwener a ddoe.

Er hynny, mae’r Gorfforaeth yn ganolog yn dweud na fydd gwylwyr a gwrandawyr wedi gweld gwahaniaeth mawr trwy wledydd Prydain ac roedd cynulleidfaoedd rhywbeth yn debyg i’r arfer.

Darlledu dwy brif raglen

Ar ôl gorfod eu canslo ddydd Gwener, fe lwyddodd y BBC i ddarlledu eu prif raglenni newyddion yn y bore ar Radio 4 a BBC 1.

Mae’r undeb wedi gwrthod derbyn cynigion i newid trefniadau pensiwn y Gorfforaeth – maen nhw’n dweud y bydd rhaid i weithwyr gyfrannu mwy a chael llai o bensiwn wedyn.

Maen nhw bellach yn ystyried streiciau deuddydd ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan a Ddydd Calan a 2 Ionawr.

Llun: Piced ym Manceinion ddoe (o wefan yr NUJ)