Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau wedi condemnio’r etholiadau sy’n digwydd yn Burma ar hyn o bryd.
Yn ôl Hillary Clinton maen nhw’n arwydd arall o’r “gormes dorcalonnus” yn y wlad, lle mae junta milwrol wedi bod yn rheoli ers 20 mlynedd.
Dyma’r etholiadau cynta’ ers hynny, pan enillodd yr arweinydd democrataidd Aung San Suu Kyi, ond pan gipiodd y cadfridogion yr awenau a’i charcharu hithau.
Mae hi a’i phlaid yn gwrthod cymryd rhan yn yr etholiadau am 1159 o seddi mewn seneddau cenedlaethol a rhanbarthol.
Dim ond plaid y llywodraeth ac un blaid filwrol arall sy’n cystadlu yn y rhan fwya’ o seddi a does dim disgwyl unrhyw newid o bwys.
Plismyn arfog
Yn ôl adroddiadau o’r brifddinas, Rangoon, mae milwyr a phlismyn arfog yn gwylio rhai o’r bythau pleidleisio, sy’n gymharol dawel hyd yn hyn.
Mae’r Llywodraeth wedi canslo’r pleidleisio mewn rhai llefydd ac, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae chwech o’r pleidiau llai eisoes wedi cwyno am lygredd.
Ond, wrth annerch torf ym Melbourne, Awstralia, fe ddywedodd Hillary Clinton ei bod yn gobeithio y byddai rhai arweinwyr newydd yn dod i’r amlwg, a’r rheiny’n gweld yr angen am arwain Burma i gyfeiriad newydd.
Llun: Aung San Suu Kyi – ei phlaid yn gwrthod sefyll