Fe fydd pobol sy’n ddi-waith ers amser yn gorfod gwneud mis o waith corfforol yn y gymuned neu golli eu budd-daliadau am dri mis.
Dyna un o’r diwygiadau sy’n debyg o gael ei gynnig yn y dyddiau nesa’ gan yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn, Iain Duncan Smith.
Mae’n debyg i gynlluniau Americanaidd a’r nod, yn ôl y Llywodraeth, yw rhoi profiad a theimlad o waith a disgyblaeth gwaith i bobol sydd ar fudd-daliadau yn y tymor hir.
Fe fyddai cwmnïau preifat yn cael cytundebau i drefnu’r gwaith ar gyfer yr hawlwyr budd-dal, a hwnnw’n cynnwys tasgau fel clirio sbwriel.
Fe fyddai disgwyl iddyn nhw weithio am 30 awr bob wythnos, gan gyrraedd a gadael gwaith ar amseroedd penodol.
‘Cydweithredwch’
Yn ôl Iain Duncan Smith fe fyddan nhw hefyd yn targedu pobol sy’n cael eu hamau o weithio ar y slei. “Y neges,” meddai, “yw cydweithredwch, neu fe fydd hi’n anodd.”
Diffyg gwaith yw’r broblem gyda chynlluniau o’r fath, meddai’r llefarydd Llafur, Douglas Alexander. “Yr hyn nad ydyn nhw (y Llywodraeth) yn ei ddeall am eu diwygiadau yn y byd lles yw hyn – heb waith, dydyn nhw ddim yn gweithio.”
Mae 1`.4 miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain yn hawlio budd-dal chwilio am waith ac 1.9 miliwn o blant yn byw mewn teuluoedd lle nad oes neb yn gweithio.
Llun: Iain Duncan Smith