Mae un o bwyllgorau dethol Tŷ’r Arglwyddi wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan dros ddeddf a fydd yn caniatáu i weinidogion dorri cyllideb sianel S4C.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi neithiwr gan y Pwyllgor Dethol ar y Cyfansoddiad.

Mae’r adroddiad yn dweud nad yw’r Llywodraeth wedi ei gwneud hi’n glir pam fod angen y Deddf Cyrff Cyhoeddus, a fydd yn caniatáu iddyn nhw newid trefniadau ariannol cyrff cyhoeddus fel S4C.

“Mae’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus yn taro at galon ein system cyfansoddiadol,” meddai’r adroddiad. “Yn benodol, mae o’n gwanhau rôl Tŷ’r Arglwyddi wrth ddiywgio deddfwriaeth.

“Rydym ni’n ei chael hi’n anodd gweld pam na ddylai cynigion i ddileu neu ailwampio cyrff cyhoeddus gael eu trafod a’u hystyried yn y Senedd.”

‘Diddymu’r sianel’

Dywedodd Plaid Cymru bod beirniadaeth y pwyllgor wedi codi amheuon ynglŷn a’r ddeddfwriaeth.

“Mae’r pwyllgor wedi tynnu sylw at un o brif broblemau’r ddeddfwriaeth,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon. “Pam ddylai un o weinidogion Llywodraeth San Steffan gael yr hawl i ddiddymu, cyfuno ac ymyrryd gyda chyrff cyhoeddus heb orfod trafod y peth o flaen y Senedd?

“Fe fyddai’n bosib cyfuno S4C gyda darlledwyr eraill, newid y rheolwyr neu hyd yn oed diddymu’r sianel – y cyfan ar fympwy y gweinidog.”

Yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ar 20 Hydref penderfynodd Llywodraeth San Steffan y bydden nhw’n newid y statud sy’n rheoli gwaith S4C er mwyn cael rhoi’r gorau i gynyddu cyllideb S4C o flwyddyn i flwyddyn yn unol â chwyddiant.

Fe fydd gwleidyddion, undebau darlledu ac ymgyrchwyr yn ymgynnull ger yr Hen Swyddfa Gymreig, Cathays, Caerdydd, er mwyn protestio yn erbyn y newidiadau yfory. Cymdeithas yr Iaith sy’n trefnu’r rali.