Mae Sam Warburton yn gobeithio y bydd dawn anhygoel ei gyfaill, Gareth Bale, yn ei ysbrydoli yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm yfory.

Cafodd y blaenasgellwr cryf ei ddewis o flaen Martyn Williams yn rheng ôl Cymru er mwyn ceisio cadw rheolaeth ar David Pocock sydd yn rheng ôl Awstralia.

Mae Warburton yn gobeithio y bydd yn gallu ysbrydoli Cymru yn yr un modd ag y mae Bale wedi ysbrydoli Tottenham y tymor yma.

Roedd y ddau’n ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ac yn chwarae i’r un tîm pêl droed.

Ffrindiau

“Roedden ni’n rhan o’r un grŵp o ffrindiau yn yr ysgol ac mae’n wych gweld Gareth yn gwneud cystal,” meddai Warburton.

“Roeddwn i’n weddol yn chwarae pêl-droed ond fydden i byth wedi gallu gwneud bywoliaeth ohono!

“Mae Gareth wedi cyflawni lot ac mae ei weld yn chwarae mor dda ar y lefel uchaf yn rhoi hyder i mi fy mod i’n gallu gwneud yr un peth.

“Mae Gareth wedi bod yn dalent fawr erioed a dyw safon ei berfformiadau diweddar ddim wedi fy synnu.”

Y gorau

Dywedodd Warburton ei fod hefyd am brofi ei fod ymysg goreuon y byd, ac fe fyddai maeddu David Pocock yfory yn ddechrau da.

“Mae Pocock yn chwaraewr gwych ac allweddol i Awstralia,” meddai. “Mae’n amlwg yn chwaraewr i’w wylio a fy swyddogaeth i fydd ei atal rhag dylanwadu ar y gêm.

“Fe fydd rhaid i ni fel tîm ei wylio yn ardal y dacl am ei fod mor beryglus.”