Mae Matt Giteau wedi dweud bod colli Jamie Roberts yn ergyd enfawr i obeithion Cymru yng nghyfres yr hydref.
Mae Roberts allan tan y Nadolig yn dilyn llawdriniaeth ar anaf i’w arddwrn, ac mae canolwr Awstralia yn credu y bydd tîm Warren Gatland yn gweld ei eisiau.
“Dw i ddim yn gweld canol Cymru yn wendid yn y tîm, ond mae colli boi fel Jamie Roberts yn ergyd enfawr,” meddai Matt Giteau wrth bapur y Western Mail.
“Mae’n Llew ac yn chwaraewr da iawn. Fe gefais i’r cyfle i chwarae yn yr un tîm ag ef gyda’r Barbariaid, ac fe welais i bryd hynny pa mor dda yw e.
“Ond fe alle’n nhw ddewis boi fel Shanklin sydd â phrofiad ac wedi chwarae’n dda yn erbyn Awstralia yn y gorffennol.
“D’yn ni ddim wedi gweld llawer o Gymru yn ddiweddar ond mae ganddyn nhw chwaraewyr da. Maen nhw’n dîm sy’n gallu cosbi timau o bob man ar y cae ac maen nhw’n hoffi lledu’r bêl.
“Mae Cymru’n chwarae’n debyg iawn i Awstralia yn y Tair Gwlad. Fe fydd rhaid i ni wella ein hamddiffyn gan nad oedd yn ddigon da’r penwythnos diwethaf.”
Cicio’i sodlau
Mae Matt Giteau wedi rhoi’r gorau i gicio tros y Wallabies yn dilyn cyfres o berfformiadau siomedig ganddo.
Fe fydd yr asgellwr James O’Connor yn cymryd ei le – ef a giciodd drosiad hollbwysig y Wallabies er mwyn cipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf.
Dywedodd canolwr Awstralia ei fod yn dymuno pob llwyddiant i James O’Connor. “Fe ddangosodd ar y penwythnos ei fod yn gallu ymdopi gyda phwysau mawr – mae wedi bod yn cicio’n dda yn gyson,” meddai Giteau.