Mae’r canolwr Andrew Bishop wedi dweud bod tîm Cymru’n awyddus i wneud yn iawn am eu canlyniad siomedig yn erbyn Awstralia llynedd.

Fe gollodd Cymru 33-12 i’r Wallabies yng Nghaerdydd ar ôl i dîm Robbie Deans reoli’r chwarae’n llwyr.

“Roedden ni wedi cael trafferthion gyda’u gêm amddiffynnol ac roedd pawb yn siomedig gyda’r canlyniad,” meddai Bishop. “Mae’r bois yn dal i deimlo’r golled ac yn awyddus i wneud yn iawn am hynny”

“Ond mae Awstralia wedi gwneud argraff. Mae eu hymosod yn wych ac mae ganddyn nhw lawer o hyder ac yn disgwyl ennill, yn enwedig ar ôl curo Seland Newydd.

“Fe fydd hi’n anodd iawn amddiffyn yn eu herbyn, ac mae’n anodd gwybod beth i’w ddisgwyl gyda chwaraewyr fel Quade Cooper.”

Y maswr-ganolwr a anwyd yn Seland Newydd yw un o sêr newydd y Wallabies.

Mae disgwyl i Bishop chwarae yn y canol gyda Tom Shanklin tra bod James Hook yn cymryd lle Lee Byrne yn safle’r cefnwr.

Llun: Andrew Bishop