Fe allai Gareth Bale ennill £20 miliwn dros y pum mlynedd nesaf mewn hawliau delwedd yn ôl y swyddog cyhoeddusrwydd enwog, Max Clifford.
Mae hefyd wedi argymell y dylai’r Cymro aros gyda Tottenham a datblygu ei yrfa o dan arweiniad y rheolwr, Harry Redknapp.
Fe ddaw sylwadau’r swyddog cyhoeddusrwydd ar ôl i Bale ysbrydoli Tottenham i fuddugoliaeth enwog yn erbyn pencampwyr Ewrop Inter Milan neithiwr.
“Mae ganddo’r fformiwla hud. Mae’n ifanc, yn Brydeinig, yn olygus gydag agwedd wych,” meddai Max Clifford.
“Gyda Harry Redknapp yn cadw llygaid arno, fe allai wneud rhwng £10m ac £20m dros y pum mlynedd nesa’ mewn hawliau delwedd.
“Fe sgoriodd dair gôl yn y gêm gyntaf yn erbyn Inter a chreu dwy neithiwr- mae’n amlwg ei fod yn dalent arbennig.”
Nid Wayne Rooney
Nid ei dalent ar y cae yw’r unig beth sy’n creu cyfle anferth i Gareth Bale, meddai Max Clifford sy’n enwog am gynghori sêr a selebs am eu delwedd gyhoeddus.
“Yr hyn sy’n dda amdano yw ei fod yn ymddangos yn foi diymhongar iawn,” meddai. “Fe allwch edrych ar Wayne Rooney am y gwrthwyneb iddo. Mae talent yn cael ei werthfawrogi ond mae pobol Prydain yn hoff iawn o berson diymhongar.”
Mae Max Clifford yn annog Bale i beidio dilyn yr un llwybr ag ymosodwr Man Utd, ar ôl i Rooney ddweud ei fod am adael Man Utd oherwydd diffyg uchelgais ond i arwyddo cytundeb mawr newydd.
“O dan Harry Redknapp, fe allai Bale fod yn un o fawrion y gêm. Fe ddylai aros gyda Spurs ac wrth gwrs cynnal trafodaethau am gytundeb gwell. Ond mae mewn lle da ar amser da.”