Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio potsiars i gadw draw o afonydd Cymru ar ôl arestio dyn am fynd ar ôl eogiaid yn Afon Sirhywi.

Fe gafodd y dyn 29 oed ei arestio am hanner dydd heddiw yn ardal Pontllanfraith ar ôl i aelodau o’r cyhoedd ffonio’r Asiantaeth.

Mae’r Swyddogion hefyd wedi cymryd rhwydi yr oedd yn eu defnyddio i geisio dal y pysgod.

“Mae potsio’r adeg hon o’r flwyddyn yn bygwth dyfodol stociau o eogiaid yn yr afon,” meddai Rhys Hughes, o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni i sôn am y potsio. Byddem yn annog unrhyw un sy’n dyst i bysgota anghyfreithlon i ffonio ein Llinell Argyfwng ar 0800 80 70 60.”