Efallai bod stori Cantre’r Gwaelod yn diflannu dan ddŵr Bae Ceredigion yn rhan o’n chwedloniaeth, ond dyw stori’r ddinas yn Ne Cymru sydd wedi boddi dan donnau’r twyni tywod ddim hanner mor gyfarwydd.

Dyna’n union ddigwyddodd i ddinas hynafol Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr a ddechreuodd ddiflannu o dan dywod a llanw Môr Hafren yn 1397.

Heddiw, dim ond olion yr hen gastell sydd i’w gweld ac ychydig i lawr y ffordd, mae tafarn y Prince of Wales yn arwydd o’r hen fywyd a fu yn yr ardal.

Mae’r dafarn a newidiodd ei henw o’r Ty Newydd i’r Prince of Wales ar achlysur coroni Siôr Tywysog Cymru yn Siôr IV yn 1820, yn honni mai yno y mae’r nifer mwya’ o ysbrydion trwy Gymru gyfan.

“Sdim dowt am hynny. Ni wedi cael lot o bobol mewn i gofnodi beth sy’n mynd mlaen yma a dw i, a’r teulu sy’n byw yma gyda fi, wedi gweld digon ein hunain erbyn hyn hefyd,” meddai’r tafarnwr ers saith mlynedd, Gareth Maund.

“I ddechrau, mae hen forwr yn dod mas o’r cornel lle’r oedd organ yr ysgol Sul. Mae’n drewi o bysgod ac mae nifer o’r cwsmeriaid wedi holi am y gwynt pysgod ddaw i’r amlwg lan llofft o bryd i’w gilydd a dyw hwnnw ddim yn agos i’r gegin!

“Mae ysbryd bachgen naw oed yma hefyd – mae e’n sefyll yn y cornel ar bwys y ffenest. Yn y rhan lle r’yn ni’n byw, mae ysbryd menyw yn cerdded lawr y corridor, yn trio dolen pob drws a chanu wrth iddi wneud hynny.

“Mae gen i dri chi, a sawl gwaith mae’r tri wedi bod yn eistedd gyda’i gilydd ar y llawr a’r tri, fel un, yn sydyn reit yn troi i’r un cyfeiriad ac yna’n dilyn rhywun gyda’i llygaid o un pen yr ystafell i’r llall ac yn aml, yn ei dilyn yn ôl drwy’r stafell hefyd. A dyw llwybr maen nhw’n dilyn ddim yn mynd o ddrws i ddrws!

“Dw i hefyd wedi clywed llais un o’r hen gymeriadau fu’n dod yma flynyddoedd lawer yn ôl yn gweiddi ‘nos da’ o’r tu hwnt i wal y maes parcio. Mae e wedi marw ers degawdau cyn fy amser i!”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref

(Llun: Hen lun o’r neuadd uwchben y dafarn)