Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Cyngor Cefn Gwlad yn cael eu cyhuddo o boeni mwy am “ystlumod, blodau a morgrug” nag am lyn sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac o bwys economaidd a chymunedol.

Yn ôl Aelod Cynulliad Arfon Alun Ffred Jones, mae’r ddau gorff wedi mabwysiadu “agwedd digyffro” tuag at lygru’r Llyn Padarn yn Llanberis.

Mae £250,000.00 o arian cyhoeddus wedi ei wario hyd yn hyn ar geisio datrys problem yr algae gwyrddlas gwenwynig sy’n ffynnu yn y Llyn.

“Y gwir amdani dw i’n teimlo bod cyrff proffesiynol ddim cweit yn ymateb gyda’r brys sydd ei angen – mae hyn yn bwysig iawn iawn yn economaidd,” meddai’r AC sy’n cadeirio Fforwm Padarn a gafodd ei sefydlu yn 2009 i geisio datrys problemau’r llyn.

Mae’r Fforwm yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad, Cyngor Gwynedd a Dŵr Cymru.

Ers 1992 mae aelodau’r Gymdeithas Bysgota Seiont, Arfon a Gwyrfai wedi bod yn cwyno wrth Asiantaeth yr Amgylchedd am lygredd yn Llyn Padarn ac Afon Seiont sy’n llifo ohono i dref Caernarfon tua wyth milltir i ffwrdd.

Maen nhw’n rhoi’r bai ar y gorddefnydd o gemegolion puro carthion gan Dŵr Cymru am ffyniant yr algae gwyrddlas gwenwynig arweiniodd at rybudd gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru’r llynedd i beidio ymdrochi yn Llyn Padarn na bwyta’r pysgod dros yr haf.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref