Dyw’r cyn pêl-droediwr John Hartson ddim wedi darllen y llyfr mae newydd ei ysgrifennu am ei flwyddyn o dostrwydd pan fu bron iddo farw.
Mae’n dweud nad yw’n barod eto am fod y profiad yn rhy anodd ac emosiynol iddo. Yn ei lyfr, Please Don’t Go, mae John Hartson yn sôn am ei frwydr chwe mis yn erbyn canser y ceilliau a’r effaith gafodd hynny arno fe a’i deulu.
“Roedd yn bwysig iawn i ysgrifennu’r llyfr am sawl rheswm,” meddai cyn seren Arsenal, Celtic a Chymru wrth gylchgrawn Golwg, “Ond roedd gwneud hynny yn eitha anodd.
“Dw i’n siarad am fy nghanser bod dydd, ac yn ei drafod gyda phob math o bobol o’r wasg i sgyrsiau preifat gyda dynion. Roedd y sgrifennu ddim yn anodd iawn, er nad oedd wrth gwrs yn brofiad pleserus. Ond o ran darllen y llyfr, dim gobaith.
“Dw i wedi dechrau sawl gwaith, ond wedi gorfod ei roi i lawr heb allu mynd ymhellach. Mae’n dod â gormod yn ôl.”
Dyddiadur
Mae rhan helaeth o’r llyfr yn seiliedig ar ddyddiadur y bu ei chwaer Victoria yn ei gadw trwy gydol y chwe mis y bu’n wael iawn oherwydd y canser.
“Roeddwn i mas o bopeth ar y pryd wrth gwrs, heb unrhyw syniad beth oedd yn mynd mlaen. Rhwng y boen, y gwendid a’r driniaeth, heb sôn am yr effaith meddyliol o drio deall beth oedd yn mynd mlaen, doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd.
“Roedd fy chwaer wedi sgrifennu popeth lawr. Pan welodd y cyhoeddwyr y dyddiadur, roedden nhw wedi cael sioc, a dweud yn syth bod yn rhaid iddo fod yn y llyfr. Felly dyna sydd wedi digwydd.”
Pan oedd John Hartson yn gwella, dechreuodd bori trwy ddyddiadur ei chwaer, ond doedd hynny ddim yn bosib o glawr i glawr ac mae ei deulu yn cael yr un drafferth gyda’r llyfr newydd.
“Mae Dad yn cael e’n anodd a ddim yn gallu darllen lot ar yr un pryd ac mae Mam yn llefen bob tro mae’n codi’r llyfr lan. Mae fe yn amser eitha emosiynol eto ers i’r llyfr ddod mas.”
Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref