Daeth miloedd o ddinasyddion o’r Ariannin ynghyd yn oriau man y bore heddiw er mwyn talu teyrnged i’r cyn-arlywydd Nestor Kirchner, a fu farw yn sydyn o drawiad ar y galon.
Fe fydd yn cael ei gofio fel y dyn a arweiniodd yr Ariannin o ganol argyfwng ariannol ac ansefydlogrwydd gwleidyddol.
Fe fu farw Nestor Kirchner, 60 oed, gyda’i wraig, yr Arlywydd presennol Cristina Fernandez, wrth ei ochr.
Roedd gan Nestor Kirchner hanes o drafferthion ar y galon, ac roedd o wedi gorfod cael llawdriniaeth brys ym mis Chwefror.
Roedd wedi bod yn ymgyrchu er mwyn gosod seiliau gwleidyddol ar gyfer tymor arall yn arlywydd i’w wraig.
Dioddefodd drawiad arall ar y galon yn gynnar ddoe, ac roedd wedi marw cyn 9.15am yn dilyn sawl ymdrech i’w adfywio.
Llenwodd Plaza de Mayo, y tu allan i’r palas arlywyddol yn Buenos Aires, wrth i filoedd o’i gefnogwyr ymgynnull i dalu teyrnged iddo.
“Fe oedd y person cyntaf yn ein democratiaeth i ystyried y gweithwyr a’r bobol. Dyna pam fod gymaint yma,” meddai Juan Pablo Mazzieri, 39.
Dywedodd ei wraig ei fod yn ddyn oedd â’r gallu “i fynd ei ffordd ei hun, gyda chefnogaeth y bobol”.
Gweddnewid gwleidyddiaeth
Urddwyd Nestor Kirchner yn arlywydd yn 2003, ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd wedi dod yn ffigwr amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth De America.
Tyfodd economi’r Ariannin dros 8% y flwyddyn yn ystod ei arlywyddiaeth, gan alluogi iddo dalu nifer o ddyledion y wlad.
Fe gyhuddodd yr IMF ar sawl achlysur o ddinistrio economi gwledydd ar draws y byd.
Pan oedd ar ei fwyaf poblogaidd yn 2007, penderfynodd gamu i’r naill ochor, gan adael i’w wraig gymryd yr awenau.