Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, wedi osgoi gwaharddiad am dacl mentrus ar chwaraewr Leeds Utd, Luciano Becchio.

Ni wnaeth y dyfarnwr gosbi Bothroyd am y dacl yn ystod y fuddugoliaeth yn Elland Road nos Lun diwethaf, ond fe gafodd dipyn o sylw gan y cyfryngau wedi’r gêm.

Roedd rheolwr Leeds Utd, Simon Grayson, wedi cyhuddo Bothroyd o dacl beryglus ar yr Archentwr.

Fe gynhaliodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru ymchwiliad i’r mater a phetai Bothroyd wedi’i gael yn euog fe allai fod wedi cael ei wahardd am dair gêm.

Fe fyddai hynny wedi golygu ei fod o’n colli’r gemau pwysig yn erbyn Norwich, Reading a’r ddarbi leol yn erbyn Abertawe.


‘Methu ail-ddyfarnu’

Ond mae’r Gymdeithas wedi penderfynu peidio mynd a’r mater ymhellach gan fod y digwyddiad wedi cael ei weld gan y dyfarnwr.

“Dim ond pam nad yw’r digwyddiad wedi cael ei weld gan aelod o’r tîm dyfarnu y mae’n bosib cosbi wedyn,” medden nhw.

“Oherwydd hynny mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi penderfynu peidio â mynd a’r mater ymhellach.”