Mae disgwyl penderfyniad o fewn y mis am ddyfodol Ystâd Efyrnwy ym Mhowys.

Mae’r darn o dir – y mwyaf erioed i gael ei werthu ar y farchnad agored – yn cynnwys 12,000 erw o dir amaethyddol sy’n warchodfa natur, 5,000 erw o goedwig, 12 fferm a thenantiaid a 31 o dai ac adeiladau masnachol.

Mae’r cwmni, sy’n cyflenwi dŵr i Lannau Mersi a Lerpwl, yn gofyn £11 miliwn am y les 125 mlynedd ar y tir.

Mae cylchgrawn Golwg yn gwybod bod o leiaf dau gynnig wedi’i wneud am yr ystâd – un gan ŵr busnes lleol ac un gan y Gymdeithas Amddiffyn Adar RSPB ynghyd â Chymdeithas Dai Canolbarth Cymru.


‘Bywyd gwledig yn bwysig’

Yn ôl Rhys Jones, gwr busnes sy’n wreiddiol o’r Bala ond yn byw yng Ngwlad Pwyl, ei fwriad yw prynu’r stad fel buddsoddiad yn ei ardal enedigol.

Mae’n Brif Weithredwr Celtic Porperty Developments SA sy’n datblygu eiddo yn Ewrop a ganddo asedau gwerth 200 miliwn Ewro.

“Yn amlwg mae hyn yn ymrwymiad tymor hir i mi a baswn eisio cadw’r stad yn y teulu.” meddai’r gŵr busnes o bentre’r Sarnau ddeng milltir o Ystâd Efyrnwy sy’n disgrifio’i hun yn “Gymro i’r carn sy’n deall hanes y tir a bod hen bentref Llanwddyn wedi diflannu o dan y dŵr.”

Dywed ei fod yn awyddus i greu swyddi yn yr ardal a bod Ystâd Efyrnwy yn arfer cyflogi hyd at 70 o bobol.

“Mae’r iaith Gymraeg, yr amgylchedd a bywyd gwledig Cymraeg yn bwysig i ni fel teulu. Nid cynnig i brynu ar hap yw hyn – mae gen i dîm o bobol leol tu cefn imi a dw i’n ffyddiog y gallwn wneud yr hyn sydd orau i’r ardal.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref