Mae clwb Saracens Lloegr wedi cadarnhau bod Gavin Henson wedi ymuno gyda’r clwb ar ôl i’r Gweilch ei ryddhau o’i gytundeb.
Dyw Henson heb chwarae rygbi ers 18 mis yn dilyn cyfres o anafiadau a chyfnod di-dâl ar wyliau o’r gêm.
Y tro diwethaf i Henson chwarae i Gymru oedd yn erbyn Iwerddon ym mis Mawrth 2009, ac fe fydd yn absennol eto ar gyfer cyfres yr hydref.
Dyw’r Saracens heb gyhoeddi manylion cytundeb Henson gyda’r clwb, na phryd y mae o’n debygol o chwarae am y tro cyntaf.
Mae’r Cymro yn cystadlu ar raglen y BBC Strictly Come Dancing ar hyn o bryd, ac os yw’n cyrraedd y ffeinal fe allai fod yno tan y Nadolig.
Ond mae Henson eisoes wedi ymarfer gyda’i glwb newydd, yn gynharach yr wythnos hon.
Henson yn hapus
Mae Gavin Henson wedi dweud ei fod wrth ei fodd cael ymuno gyda’r Saracens.
“Maen nhw wedi creu naws arbennig yn y clwb, ac mae cael bod yn rhan ohono wedi ail-danio fy mrwdfrydedd yn y gêm,” meddai Henson.
“Mae’r Saracens yn feiddgar, arloesol, positif ac uchelgeisiol. Rwy’n gwybod fod gen i lawer mwy i gynnig ym myd rygbi, a dw i ddim yn gallu aros tan fy mod i’n cael dychwelyd i’r cae a chwarae i’r Saracens a hefyd i Gymru, gobeithio.
“Nawr mae’n rhaid i mi ddechrau gweithio’n galed ac adennill fy ffitrwydd cyn gynted a bod modd.”
Mae disgwyl bydd Henson yn chwarae yn safle’r maswr i’w glwb newydd, ar ôl i Derick Hougaard gael ei anafu am weddill y tymor.
“Mae Gavin yn dalent arbennig. R’yn ni wrth ein bodd ei fod o wedi dewis treulio cyfnod nesaf ei yrfa gyda ni,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Saracens, Brendan Venter.
“R’yn ni’n credu y bydd e’n mwynhau’r awyrgylch yma ac fe fydd hynny o fudd i gefnogwyr y clwb ac i rygbi Cymru.”