Mae Tesco wedi stopio gwerthu 11 math o fara Hovis oherwydd ffrae ynglŷn â phris y dorth.
Dim ond saith math o’u bara mae’r archfarchnad yn fodlon ei werthu ers i berchnogion Hovis geisio cynyddu pris y bara oherwydd y cynnydd 50% ym mhris gwenith eleni.
“Mae Tesco wedi gwrthod rhai o’n cynhyrchion llai, ac ry’n ni’n siarad gyda nhw i geisio datrys hynny,” meddai Prif-weithredwr Premier Foods, sy’n berchen ar Hovis.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi gwerthu l4.2% yn llai yn y tri mis hyd ddiwedd Medi, y cyfnod “anoddaf” ers 2007.
Mae Premier Foods, cynhyrchwr bwyd mwyaf Prydain, hefyd yn berchen ar frandiau Mr Kipling, Sharwood’s, Branston ac Ambrosia.
Tesco
Yn ôl un arbenigwr ar y diwydiant bwyd, mae rheolaeth Tesco dros y farchnad fwyd yn rhoi pwysau mawr ar fusnesau fel Premier Foods.
“Gwneith Tesco ddim rhedeg allan o fara, ond mae Hovis yn colli allan ar werthiant yn archfarchnad fwyaf y wlad,” meddai Clive Black o Shore Capital.
“Fe fyddan nhw hefyd yn colli tir i’w cystadleuwyr, fel Warburton’s a Kingsmill.”
Mae prisiau gwenith ym Mhrydain wedi cynyddu 54% ers dechrau 2010 o ganlyniad i sychder mawr a chynhaeaf gwael yn Rwsia a Dwyrain Ewrop.