Mae’r bachgen 16 oed sydd wedi ei gyhuddo o ladd y ferch ysgol Rebecca Aylward wedi methu yn ei ymgais i gael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Daethpwyd o hyd i Rebecca Aylward, 15 oed, o Faesteg, yn farw gydag anafiadau i’w phen mewn coedwig yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sul.
Fe gafodd y bachgen 16 oed ei arestio’r noson honno.
Ymddangosodd y bachgen, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, o flaen barnwr o’r Uchel Lys yng Nghaerdydd heddiw.
Penderfynwyd ei gadw dan glo unwaith eto ac fe fydd yn ymddangos o flaen y llys am y trydydd tro dydd Mercher nesaf.