Mae cyn ymgynghorydd pennaf yr Arlywydd George Bush wedi dweud nad ydi o’n credu y byddai Sarah Palin yn gwneud arlywydd da.

Yn ôl adroddiadau mae Sarah Palin yn ystyried a oes ganddi ddigon o gefnogaeth i herio Barack Obama am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2012.

Ond dywedodd Karl Rove na fyddai’r etholwyr yn meddwl fod ganddi ddigon o sylwedd i fod yn arlywydd benywaidd cyntaf y wlad.

Ar hyn o bryd mae’r cyn darpar ddirprwy arlywydd yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen sy’n trafod bywyd gwyllt ei thalaith, Alaska.

“Dydw i ddim yn credu bod ymddangos ar y Discovery Channel yn mynd i wneud i bobol America ei hystyried hi’n ymgeisydd ar gyfer yr Oval Office,” meddai Karl Rove wrth bapur newydd y Daily Telegraph.

Yn ystod un o’r rhaglenni mae Sarah Palin yn dweud: “Fe fyddai’n well gen i wneud hyn na bod mewn rhyw hen swydd wleidyddol ddiflas.”

Dywedodd Karl Rove y byddai’r Democratiaid, neu ei gelynion Gweriniaethol, yn gallu defnyddio dyfyniadau o’r fath yn ei herbyn hi pe bai hi’n penderfynu sefyll.

Mae disgwyl i’r ymgyrchu ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf ar gyfer yr etholiad ar 6 Tachwedd, 2012.

Ychwanegodd Karl Rove y byddai’r ymgyrch yn golygu “chwys a dagrau a lot o ymdrech caled”.

Dywedodd bod Sarah Palin wedi “gwneud job dda” yn ystod ymgyrch arlywyddol John McCain yn 2008, ond bod ymgeisio ar gyfer yr arlywyddiaeth yn “wahanol iawn”.

“Mae gan bobol America safonau uchel iawn ac mae angen rywfaint o urddas,” meddai.