Mae Martyn Williams a Scott Andrews wedi eu cynnwys yn nhîm y Gleision fydd yn wynebu Aironi yn Stadio Zaffanella nos yfory.
Fe gafodd y prop a’r blaenasgellwr eu rhyddhau o garfan Cymru er mwyn rhoi hwb i’r rhanbarth Cymreig wrth iddyn nhw wynebu’r clwb Eidalaidd am y tro cyntaf.
Mae John Yapp hefyd wedi cael ei ryddhau o’r garfan ryngwladol a’i gynnwys ar y fainc.
Bydd chwaraewr o academi’r Gleision, Dan Fish, yn chwarae ei gêm gystadleuol gyntaf dros y rhanbarth, yn safle’r cefnwr.
Mae Owen Williams, o academi’r Gleision, yn ogystal â Tom Slater a Gareth Davies, sydd wedi bod yn chwarae i glwb uwchgynghrair Cymru Caerdydd, ar y fainc.
Mae’r Gleision wedi ennill pob un o’u chwe gêm yn erbyn timau o’r Eidal, ond maen nhw’n wynebu Aironi ar ôl colli dwy gêm yn olynol yn erbyn Castres a’r Scarlets.
Mae Aironi yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghyngrair Magners ar ôl colli wyth gêm yn olynol.
“Fe fyddwn ni’n teithio i’r Eidal yn benderfynol o ennill yn dilyn ein gêm yn erbyn y Scarlets,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young.
“Rydw i’n synnu nad ydi Aironi wedi ennill gêm eto. Mae ganddynt sawl chwaraewr rhyngwladol yn chwarae yn y tîm.
“R’yn ni’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn anodd. Maen nhw’n gwthio’r timau eraill i’r eithaf bob wythnos.
“Dim ond mater o amser yw hi tan eu bod nhw’n ennill eu gêm gyntaf, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydi hynny’n digwydd yn ei herbyn ni.”
Carfan y Gleision
15 Dan Fish 14 Richard Mustoe 13 Casey Laulala 12 Dafydd Hewitt 11 Gavin Evans 10 Ceri Sweeney 9 Lloyd Williams
1 Tom Davies, 2 Rhys Thomas, 3 Scott Andrews, 4 Michael Paterson, 5 Paul Tito, 6 Ma’ama Molitika, 7 Martyn Williams, 8 Xavier Rush.
16 Rhys Williams 17 Sam Hobbs 18 John Yapp 19 James Down 20 Andries Pretorius 21 Tom Slater 22 Gareth Davies 23 Owen Williams