Mae disgwyl i gannoedd o filoedd o streicwyr orymdeithio drwy strydoedd Ffrainc heddiw fel rhan o ymgais olaf i orfodi Arlywydd y wlad, Nicolas Sarkozy, i gefnu ar gynllun i godi’r oed ymddeol.

Mae disgwyl o leiaf 270 o brotestiadau ym mhob cwr o Ffrainc, wrth i weithwyr a myfyrwyr streicio a phrotestio am y nawfed diwrnod.

Hyd yn hyn mae’r rhan fwyaf o brotestiadau wedi bod yn heddychlon, ond mae gangiau o bobol ifanc wedi gwrthdaro gyda’r heddlu mewn sawl dinas.

Yn ôl pôl piniwn ym mhapur newydd La Parisien heddiw mae 65% o weithwyr Ffrainc yn cefnogi brwydr yr undebau llafur i atal y llywodraeth rhag codi’r oed ymddeol o 60 i 62.

Cafodd y newid ei gymeradwyo gan senedd Ffrainc ddoe, a bydd nifer o deuluoedd ar eu gwyliau hanner tymor yr wythnos hon, felly does dim disgwyl protest o’r un maint a’r rhai blaenorol.

“R’yn ni’n gwybod fod yna rywfaint o flinder, a gwyliau’r ysgol hefyd. Felly does dim disgwyl i ni dorri unrhyw record heddiw, ond mae’n dangos ein bod ni dal yn rhoi pwysau ar y llywodraeth,” meddai Jean-Claude Mailly o undeb Force Ouvriere wrth asiantaeth newyddion Agence France-Presse.

“Hyd yn oed os ydyn nhw wedi pleidleisio o blaid y newid, fydd pobol ddim yn derbyn bod yr oed ymddeol wedi newid.

“Fe fydd o’n achosi creithiau dwfn… fe fydd yna densiynau ynglŷn â chyflogau o fewn cwmnïau.”

Mae disgwyl y bydd un diwrnod arall o brotestio a streicio, ar 6 Tachwedd, cyn i Nicolas Sarkozy arwyddo’r ddeddf newydd ar 15 Tachwedd.