Mae Nissan wedi galw 2.14 miliwn o gerbydau’n ôl yn yr Unol Daleithiau, Japan, Ewrop ac Asia.
Cyhoeddodd y cwmni heddiw y byddan nhw’n galw nifer o’u ceir yn ôl, gan gynnwys modelau poblogaidd y March a’r Micra, oherwydd problem gyda’r injan.
Er eu bod nhw’n gwadu bod y nam wedi arwain at ddamweiniau, mae’r nam yn gallu gwneud i’r injan ddiffodd yn ddirybudd.
Mae’r broblem mewn injan cerbydau a gynhyrchwyd rhwng 2003 a 2006.
Cafodd 835,000 o’r ceir sydd wedi’u galw yn ôl eu cynhyrchu yn Japan, 762,000 yng Ngogledd America, a 354,000 yn Ewrop.
Dyw Nissan ddim wedi dweud beth fydd y gost o alw’r ceir yn ôl i’w busnes nhw.