Boed law neu hindda, ar ddydd Llun 1 Tachwedd bydd S4C yn lansio ei gwefan tywydd newydd.

Bydd y wefan, sy’n cael ei rheoli gan gwmni Tinopolis, yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd yng Nghymru mewn “mwy o fanylder nag erioed o’r blaen”.

Dywedodd S4C mai’r nod oedd lansio’r gwasanaeth mewn da bryd ar gyfer Noson Tân Gwyllt.

“Defnyddiwch y gwasanaeth i weld os fydd glaw yn taflu dŵr oer ar eich coelcerth, neu wynt cryf yn amharu ar drywydd eich rocedi!” meddai llefarydd ar ran y sianel.

Mae S4C yn gweithio â chwmni Weather Central, sy’n darparu gwasanaeth tywydd i 21 o wledydd ar hyd a lled y byd.

S4C fydd y cwmni darlledu cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio’r gwasanaethau sy’n gallu rhagolwg y tywydd i fanylder o 1km.

“Ar wefan newydd S4C gallwch ddefnyddio’r cod post ar gyfer unrhyw ardal yng Nghymru a chael y rhagolygon tywydd ar gyfer yr union stryd, gymdogaeth, dref neu bentref,” meddai Adam Salkeld o Tinopolis.

“Mae’r gwasanaeth yma yn ddefnyddiol iawn os ydych yn trefnu barbeciw yn yr haf neu am wybod pryd i amddiffyn eich planhigion rhag y rhew.”

Dywedodd Chip Mobely, o gwmni Weather Central, bod tywydd “cyfnewidiol” Cymru yn gwneud gwasanaeth o’r fath yn anghenrheidiol.

“Gallai fod yn braf mewn un man ond yn glawio yn y pentref nesa!” meddai.

“Dyma pam rydyn ni’n falch o’r cyfle i weithio â S4C a Tinopolis i ddarparu’r dull arloesol hwn o gyflwyno’r tywydd.”